Cyflwynwyd yr ymateb hwn i’r ymgynghoriad ar y Bil Bwyd (Cymru) Drafft

This response was submitted to the consultation on the Draft Food (Wales) Bill

FB021

Ymateb gan: | Response from:  Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru | Welsh Local Government Association

 

RHAGARWEINIAD

 

1.    Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (y Gymdeithas) yn sefydliad trawsbleidiol dan arweiniad gwleidyddol sy’n ceisio rhoi llais cryf i lywodraeth leol ar lefel genedlaethol. Mae’r Gymdeithas yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hybu democratiaeth leol yng Nghymru. Mae’r 22 Cyngor yng Nghymru yn aelodau o’r Gymdeithas ac mae'r tri awdurdod tân ac achub ac awdurdodau'r tri pharc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.

 

2.    Mae CLlLC yn credu bod y syniadau sy’n newid bywydau pobl yn digwydd yn lleol. Mae cymunedau ar eu gorau pan maent yn teimlo eu bod wedi’u cysylltu â’u cynghorau trwy ddemocratiaeth leol. Trwy hyrwyddo’r cysylltiadau hynny, eu hwyluso a’u cyflawni, gallwn ddatblygu democratiaeth leol fywiog sy’n galluogi cymunedau i ffynnu.

 

3.    Prif nod y Gymdeithas yw hyrwyddo, diogelu, cefnogi a datblygu llywodraeth leol ddemocrataidd a buddiannau Cynghorau yng Nghymru. Golyga hyn:

·         Hyrwyddo rôl ac amlygrwydd cynghorwyr ac arweinwyr cynghorau

·         Sicrhau’r disgresiwn lleol mwyaf mewn deddfwriaeth neu ganllawiau statudol

·         Cefnogi a sicrhau cyllid cynaliadwy a hirdymor i gynghorau

·         Hybu gwelliant dan arweiniad sector

·         Annog democratiaeth leol fywiog, gan hybu mwy o amrywiaeth

·         Cefnogi cynghorau i reoli eu gweithluoedd yn effeithiol

Pwyntiau a sylwadau cyffredinol

4.         Mae CLlLC yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn ar y cynigion ar Fil Bwyd Cymru. Mae barn ar y cwestiynau sydd wedi’u cynnwys yn y ddogfen ymgynghori wedi’u cynnwys isod.

Sylwadau byr am y cwestiynau

 

1.    A ydych yn cytuno â'r egwyddorion cyffredinol y mae'r Bil yn ceisio eu cyflawni?

 

Ydym - mae’n ceisio darparu fframwaith cydlynol ar gyfer integreiddio polisi bwyd gydag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Deddf LlCD). Gallai helpu i fynd i’r afael â nifer o faterion allweddol gan gynnwys yr angen i wella diogelwch bwyd, ac i fynd i’r afael â newid mewn hinsawdd a phroblemau tlodi.

 

2.    A ydych yn credu bod angen y ddeddfwriaeth hon?  A allwch roi rhesymau dros eich ateb.

 

Ydym, ond mae’n rhaid dyrannu adnoddau priodol i gefnogi’r gweithrediad. Byddai’r ddeddfwriaeth yn rhoi dyletswydd i gyrff cyhoeddus i gymryd y camau rhesymol i symud yr amcanion bwyd cynradd ac eilaidd ymlaen. Gydag unrhyw ddyletswydd newydd sy’n cael ei roi ar gynghorau, byddai rhaid i hwn yn cael ei ariannu’n gywir a ni ddisgwylir ei gymhwyso o fewn y cyllidebau presennol.

 

Hefyd, mae’n bwysig nad yw unrhyw reoliadau newydd yn creu pwysau ychwanegol i fusnesau bwyd sydd yn cael pethau’n anodd yn barod oherwydd y pwysau amrywiol o gyflenwad, cost a llafur.

 

 

3.    Rhowch eich barn ar gynnwys y Nodau Bwyd yn y Bil fel ffordd o osod sylfaen ar gyfer yr amcanion polisi.

Maent yn hawdd i’w deall ac yn ategu Deddf LlCD, yn gofyn bod cyrff cyhoeddus yn meddwl yn benodol am y goblygiadau o ran cynhyrchiad a threuliant bwyd.

 

 

4.    A ydych yn cytuno â chynnwys Nod Bwyd Sylfaenol wedi'i ategu gan Nodau Bwyd Eilaidd?

Ar y cyfan, ydym. Mae’n lleoli natur bwyd yng ngwraidd y Bil ac yn gofyn am ystyriaeth ar nifer o ddimensiynau lle gall bwyd gyfrannu at amcanion polisi ehangach.

 

Er hynny, mae’n bwysig nodi efallai nad yw’n bosibl i gyflawni ar yr un pryd yr holl elfennau o amcanion bwyd cynradd (darparu bwyd ‘fforddiadwy, iachus, cynaliadwy yn economaidd ac amgylcheddol i bobl yng Nghymru). Os yw costau bwyd yn cynyddu, er enghraifft o ganlyniad o gael bwyd lleol ar blatiau ysgol, felly bydd yr un peth yn digwydd i gostau i Llywodraeth Cymru (cost uned i brydau dan Ddarpariaeth Gynhwysol o Brydau Ysgol am Ddim), cynghorau (yn cyflenwi costau Prydau Ysgol am Ddim rheolaidd i brydau drwy’r Grant Cynnal Refeniw) a rhieni/ disgyblion (disgyblion sy’n talu mewn ysgolion uwchradd).  

Mewn ysgolion yn gyffredinol mae bwydydd iachach yn llai poblogaidd ac yn cyfrannu’n fwy at wastraff traul na bwydydd ‘sy’n gyfeillgar i blant’ (e.e. bysedd pysgod eog yn erbyn bysedd pysgod penfras; pys yn erbyn ffa pôb; tatws wedi’u berwi yn erbyn sglodion). O fewn ysgolion, mae’n afrealistig disgwyl cyflawni amcan bwyd eilaidd o ‘leihau gwastraff bwyd gan fasnachwyr a phrynwyr bwyd’, wrth geisio parhau i gynyddu iechyd bwyd mewn ysgolion, sydd yn debygol o gael ymyrraeth barhaus o’r amcan bwyd eilaidd arall sy’n berthnasol i ‘leihau gordewdra’.

 

 

5.    A oes meysydd ychwanegol / gwahanol y dylid eu cynnwys yn y Nodau Bwyd yn eich barn chi?

 

Mae teilyngdod i gadw’r nodau yn gyfyngedig o ran niferoedd a’u gwneud yn hawdd i’w deall/ cofio. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi y bydd goblygiadau o ran costau. Mae Ffynonellau Bwyd o ansawdd uchel, lleol, gwydn yn debygol o fod yn ddrytach na’r dewisiadau eraill sydd ar gael ar y farchnad. Byddai rhaid i gyllidebau Cyngor gael eu mwyhau i gyflenwi costau ychwanegol fel hyn, gan gydnabod bod buddion cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach yn digolledu. 

 

Addysg bwyd a datblygu sgiliau bwyd i sicrhau deiet iachach a lles gwell yn fesur pwysig a chyflenwol.

 

6.     A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y Nodau Bwyd, gan gynnwys goblygiadau'r cynigion o ran adnoddau a sut y gellid lleihau effaith y goblygiadau hynny?

Mae goblygiadau o ran adnoddau wedi’u cynnwys yn yr ymatebion uchod. Yn ogystal, mae angen datblygu nodau ar y cyd gyda chynigion Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, gan sicrhau er bod bwyd yn nwyddau a ellir ei farchnata, diogelwch bwyd a buddion cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach sydd yn gysylltiedig gyda sut y cynhyrchir bwyd a’i brynu yn nwyddau cyhoeddus. Bydd SFS yn talu ffermwyr am nwyddau cyhoeddus ac felly mae’r Cynllun yn ffynhonnell adnodd i helpu bodloni’r costau ychwanegol. Yn dilyn pryderon bod y drafftiau cynnar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig wedi methu â chydnabod na chefnogi rôl allweddol ffermwyr mewn cynhyrchiant bwyd cynaliadwy, mae’n dda gweld bod y drafftiau diweddaraf o’r Cynllun yn adlewyrchu hyn. Bydd yn bwysig bod cynhyrchiant bwyd yn parhau yng ngwraidd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy fel y mae’r cynllun yn cael ei ddiwygio ymhellach a’i derfynu, ac mae cyfraniad ffermwyr i gynhyrchu bwyd cynaliadwy yn cael ei gydnabod yn ffurfiol yn y ddeddfwriaeth newydd sydd yn ategu’r cynllun newydd.

 

7.     Rhowch eich barn ar gynnwys targedau yn y Bil fel modd o fesur sut mae'r Nodau Bwyd yn cael eu datblygu.

Mae’n gwneud synnwyr i gynnwys targedau i fesur cynnydd os yw’r targedau hyn yn wrthrychol, yn gyraeddadwy ac yn hyrwyddo Nod Bwyd Eilaidd.  Gallai’r targedau fod angen o leiaf  safon isafswm fel nad yw’n cyfyngu uchelgais - efallai gyda chymhelliant i’r rheiny sydd yn cyflawni perfformiad uwch.

 

8.    A ydych yn cytuno â'r broses ar gyfer gosod y targedau?  

 Mae angen cadw’r broses mor syml a phosibl. Hefyd mae’n bwysig osgoi’r syniad mai’r targed yw terfyn yr uchelgais.  Os oes modd cael canlyniadau gwell, yna dylid annog hyn.

 

9.    A ydych yn credu bod y mecanweithiau adrodd a nodir yn y Bil drafft yn sicrhau digon o atebolrwydd a digon o gyfle i graffu?

Yn fras, ydym a gellir datblygu’r rhain dros amser. Mae’n bwysig bod y fframwaith yn gefnogol ac yn annog gweithred gadarnhaol yn hytrach na throi i ymarfer biwrocrataidd ac yn faich. Dylid disgwyl i gynghorau (a chyrff cyhoeddus eraill) egluro eu perfformiad a’u cefnogi i fynd i’r afael ag unrhyw fethiannau i fodloni targedau. Fodd bynnag, ni ddylai’r system gyflwyno mesurau cosbol neu feirniadol (er enghraifft, defnyddio cosbau ariannol neu gyhoeddi ‘tablau cynghrair’).

 

 

10.  A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y targedau, gan gynnwys goblygiadau'r cynigion o ran adnoddau a sut y gellid lleihau effaith y goblygiadau hynny?

Ni fydd goblygiadau o ran adnoddau yn bodloni’r targedau  yn hollol hysbys tan y cânt eu cyhoeddi, ac yn dilyn profiad o weithio tuag atynt. Efallai gall fod yn ddefnyddiol i’w hadolygu ar ôl 12 mis i ystyried eu priodoldeb yng ngoleuni argaeledd adnoddau.


11. Beth yw eich barn ar yr angen am Gomisiwn Bwyd i Gymru?

Byddai Comisiwn Bwyd i Gymru yn ddefnyddiol ac yn darparu rôl bwysig, yn ddibynnol ar sut y mae’n cael ei sefydlu ac ansawdd y bobl a benodir iddo.  Byddai angen adnoddau digonol a pheidio bod yn gyson ddibynnol ar adnewyddiad  blynyddol o gyllid. Mae eisoes cyrff cyhoeddus cyfredol gwahanol a Chomisiynwyr sydd â diddordeb (h.y. Comisiynwyr Cenedlaethau’r Dyfodol a Phlant; Iechyd Cyhoeddus Cymru) ac mae’n bwysig bod unrhyw gorff ychwanegol yn ychwanegu gwerth. Mae’r angen am drosolwg democrataidd yn hanfodol hefyd.

12.  A ydych yn cytuno â nodau a swyddogaethau Comisiwn Bwyd Cymru?  Os na, pa newidiadau y byddech chi'n eu hawgrymu?

Ar y cyfan, ydym. Rydym yn croesawu gweld y byddai’n cael rôl o gynorthwyo cyrff cyhoeddus o sefydlu polisiau bwyd a’u darparu gyda chyngor a chymorth yn gyffredinol.

 

13. A ydych yn cytuno â maint aelodaeth y Comisiwn Bwyd a'r broses ar gyfer penodi ei aelodau?

 Mae’r maint arfaethedig o aelodaeth yn ymddangos yn iawn.

14.  Beth yw eich barn am y cynnig mai am gyfnod o hyd at bum mlynedd ar y mwyaf y gall y cadeirydd a'r aelodau wasanaethu ac mai dim ond unwaith y gellir ailbenodi unigolyn yn gadeirydd neu'n aelod?  Ydych chi'n credu bod hyn yn briodol?

Bydd parhad yn bwysig, ond cydnabu hefyd efallai bydd angen adfywio o dro i dro. Dylid osgoi sefyllfa lle mae’n rhaid i’r holl aelodau newid ar yr un pryd.

15.  A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y Comisiwn Bwyd, gan gynnwys goblygiadau'r cynigion o ran adnoddau a sut y gellid lleihau effaith y goblygiadau hynny?

Nag oes.

16. A ydych yn cytuno bod angen strategaeth fwyd genedlaethol?

Ydym. 

17. A ydych yn credu bod strategaethau presennol Llywodraeth Cymru o ran bwyd yn ddigon cydgysylltiedig / cyson?

Nac ydym - mae cwmpas iddynt fod wedi’u halinio’n well. Gweler y sylwadau uchod ynghylch cysylltu strategaeth fwyd yn agosach gyda’r SFS, er enghraifft.

18.  A yw'r Bil drafft yn gwneud digon i sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael cyngor ac yn ymgynghori ar y strategaeth cyn iddi gael ei gwneud.  Os na, pa fecanweithiau ychwanegol y byddech yn eu rhoi ar waith?

Mae hwn yn fater ar wahân i gynnwys y Bil. Bydd ymgynghoriad priodol gyda chynghorau fel haen wedi eu hethol yn ddemocrataidd yn hanfodol.

19.   A ydych yn credu bod darpariaethau'r Bil drafft sy'n ymwneud ag adrodd ar y strategaeth fwyd genedlaethol yn ddigonol?  Os na, pa newidiadau yr hoffech eu gweld?

Ydy mae nhw’n ddigonol.

20.   A ydych yn credu bod darpariaethau'r Bil drafft sy'n ymwneud ag adolygu’r strategaeth fwyd genedlaethol yn ddigonol?   Os na, pa newidiadau yr hoffech eu gweld?

Ydym, er efallai bod pum mlynedd yn amser rhy hir cyn yr adolygiad cyntaf.

21.  A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y Strategaeth Fwyd Genedlaethol, gan gynnwys goblygiadau'r cynigion o ran adnoddau a sut y gellid lleihau effaith y goblygiadau hynny?

Nag oes.

22. A ydych yn cytuno bod angen cynlluniau bwyd lleol?

Bydd angen rhyw fath o gynllun i sefydlu sut mae cyrff yn bwriadu bodloni nodau bwyd cynradd, nodau bwyd eilaidd a’r targedau bwyd cysylltiedig. Fodd bynnag, os bydd Awdurdodau Lleol yn cael dyletswydd i gynhyrchu cynlluniau bwyd lleol, yna dylid darparu’r adnoddau angenrheidiol iddynt allu cyflawni’r dasg hon.

23. A yw'r Bil drafft yn gwneud digon i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn ymgynghori ar eu cynlluniau bwyd lleol cyn iddynt gael eu gwneud? Os na, pa fecanweithiau ychwanegol y byddech yn eu rhoi ar waith?

Yn fras ydy, ond bydd angen adolygu hwn yn gyson.

24.   A ydych yn credu bod darpariaethau'r Bil drafft sy'n ymwneud ag adrodd ar y cynlluniau bwyd lleol yn ddigonol?  Os na, pa newidiadau yr hoffech eu gweld?

Ydym.

 



25.   A ydych yn credu bod darpariaethau'r Bil drafft sy'n ymwneud ag adolygu’r cynlluniau bwyd lleol yn ddigonol?  Os na, pa newidiadau yr hoffech eu gweld?

Mae angen adolygiad ar y strategaeth genedlaethol cyffredinol a sut mae’r cynllun bwyd lleol yn cyfrannu ato, dim ffocws ar y cynlluniau lleol yn unig.

26.  A oes gennych unrhyw sylwadau ychwanegol ar y cynlluniau bwyd lleol, gan gynnwys goblygiadau'r cynigion o ran adnoddau a sut y gellid lleihau effaith y goblygiadau hynny?

Mae’n rhaid i’r ffocws fod ar ganlyniadau a dylai gofynion gwybodaeth eu datblygu yn unol â hynny a’u cadw cyn lleied â phosibl.

27.  A ydych yn cytuno â'r rhestr o bersonau y diffinnir eu bod yn 'gorff cyhoeddus' at ddibenion y Bil hwn?

Ydym.

28. A oes gennych unrhyw farn ar y broses a nodir yn y Bil ar gyfer gwneud rheoliadau?

Nag oes.

29.  A oes gennych unrhyw farn ar ddyddiad cychwyn arfaethedig y Ddeddf?

Wrth gynllunio ymlaen, mae angen cofio na fydd y Ddeddf yn dechrau effeithio ar gyrff cyhoeddus tan fydd y Rheoliadau wedi eu cynhyrchu ac wedi dod i rym.